Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
Mae bp ac EnBW wedi cyflwyno eu cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer asedau cynhyrchu trydan fferm wynt Morgan i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dyma’r cam nesaf tuag at gyflawni’r prosiect hwn y disgwylir iddo ddarparu hyd at 1.5GW o ynni glân – digon i bweru tua 1.7 miliwn o gartrefi. Mae’r adroddiad yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i asesu a deall unrhyw effeithiau posibl y gallai’r prosiect eu cael ar yr amgylchedd.
Pam mae’n bwysig?
Mae cwmpasu yn sicrhau:
- Nodir y materion amgylcheddol a chymdeithasol allweddol y dylid mynd i’r afael â hwy yn gynnar
- Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y materion allweddol Mae ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol yn digwydd yn gynnar
Beth sydd nesaf?
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn ymgynghori ag ymgyngoreion technegol i gael eu barn ar yr hyn sydd yn yr adroddiad cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu. Bydd y cais cwmpasu ar gyfer yr asedau trosglwyddo yn dilyn. Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl y bydd y cylch cyntaf o ymgynghori cymunedol anstatudol ar gyfer prosiect Morgan yn dechrau ym mis Medi 2022.