Newyddion
Dydd Gwener 6 Mai 2022

bp ac EnBW yn cyflwyno cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer fferm wynt Mona

Mae bp ac EnBW wedi cyflwyno eu cais cwmpasu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer fferm wynt Mona i'r Arolygiaeth Gynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.

Dyma’r cam nesaf tuag at gyflawni prosiect sydd yn disgwyl darparu hyd at 1.5GW o ynni glân – digon i bweru tua 1.7 miliwn o anneddau. Mae’r adroddiad yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i asesu a deall unrhyw effeithiau posibl y gallai’r prosiect ei gael ar yr amgylchedd.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae cwmpasu yn sicrhau:

• Nodir materion amgylcheddol a chymdeithasol allweddol y dylid mynd i’r afael â hwy yn gynnar

• Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y materion allweddol

• Ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol yn gynnar yn y broses

Beth sydd nesaf?

Anfonir yr adroddiad at yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd yr asiantaethau hyn yn awr yn ymgynghori ag ymgyngoreion technegol i gael eu barn ar yr hyn sydd yn yr adroddiad cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu. Byddwn hefyd yn ceisio dechrau ein cam cyntaf o ymgynghori cymunedol ar gyfer prosiect Mona ym mis Mehefin 2022.

Mona EIA scoping report - PDF
Share