Dewisiadau cwcis

Ar eich ymweliad cyntaf â’r wefan hon, gofynnwyd i chi (gan faner hysbysu) a hoffech chi dderbyn y defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg. Gallwch chi newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy ymweld â’r dudalen hon. Hoffem esbonio sut rydym yn defnyddio’r technolegau hyn.

I ddysgu beth yw cwcis, a thechnolegau tebyg, rydym yn argymell eich bod yn ymweld â’r wefan trydydd parti ganlynol: www.allaboutcookies.org.

Fel llawer o wefannau, rydym yn defnyddio cwcis at amrywiaeth o ddibenion. Mae rhai cwcis yn angenrheidiol er mwyn i’r wefan weithio, mae eraill yn cofnodi data am galedwedd eich dyfais a’ch rhyngweithiad â’n gwefan. Ein polisi yw defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain dim ond gyda chaniatâd defnyddwyr y gwasanaethau digidol rydym yn eu darparu, ac eithrio pan fydd defnyddio cwcis neu dechnolegau olrhain yn gwbl angenrheidiol ar gyfer defnyddio gwasanaeth.

Dyma’r hyn a ddefnyddiwn ar y wefan hon:

Cwcis swyddogaethol

Mae angen y cwcis hyn er mwyn cynnal swyddogaethau sylfaenol y wefan, felly maent bob amser wedi’u galluogi. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n gadael ein baner cwcis, bydd cwci yn cael ei ollwng ar eich dyfais er mwyn atgoffa eich porwr i beidio ag ail-wasanaethu’r blwch naid hwn pan fyddwch chi’n ymweld â’r safle hwn yn nes ymlaen.

Cwcis perfformiad

Mae’r wybodaeth y mae’r cwcis yn ei chasglu yn cael ei defnyddio i’n helpu i addasu’r wefan ar gyfer ein defnyddwyr.

Dadansoddeg

Pan fyddwch chi wedi caniatáu i ni ddefnyddio cwcis perfformiad, rydym yn defnyddio adnodd dadansoddi gwefannau a ddarperir gan Google i gasglu gwybodaeth ystadegol am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ac yn rhyngweithio â’n gwefan.

Mae cwcis Google Analytics yn casglu gwybodaeth am y canlynol:

  • Eich cyfeiriad IP
  • Dewis iaith
  • Nifer yr ymwelwyr â’n gwefan
  • Y tudalennau neu’r cynnwys sydd â’r traffig mwyaf
  • Oddeutu ble yn y byd rydych chi’n ymweld â’r wefan
  • Sut wnaethoch chi ddod o hyd i’n gwefan e.e. chwiliad uniongyrchol; dolen i wefan trydydd parti; neu ddolen yn un o’n negeseuon e-bost.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth ystadegol gyfunol hon i helpu i wella’r wefan; er enghraifft drwy flaenoriaethu diweddariadau o’r cynnwys sy’n cael ei ddarllen amlaf neu’r swyddogaeth sy’n cael ei defnyddio amlaf. Gall cwcis Google Analytics gadw gwybodaeth am hyd at ddwy flynedd. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Google Analytics, cliciwch yma: https://developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage

Profi cynwys

Os byddwn ni’n diweddaru ein gwefan, rydym weithiau’n dangos cynnwys gwreiddiol i rai ymwelwyr a chynnwys amgen i ymwelwyr eraill er mwyn ein helpu i asesu pa fersiwn sy’n optimeiddio profiad y defnyddwyr. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn yn gollwng cwci ar eich dyfais i gofio pa fersiwn o’r dudalen a gyflwynwyd i chi.

Arolygon

Weithiau rydym yn gofyn i’n hymwelwyr lenwi arolygon dewisol am ein gwefan, neu am ein nwyddau a’n gwasanaethau. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn yn gollwng cwci i gofio peidio ag anfon yr un arolwg atoch chi eto os byddwch chi’n ymweld â’n gwefan eto yn nes ymlaen.