Hysbysiad cyfreithiol

Mae’r canlynol yn nodi’r amodau o ran defnyddio gwefan enbw-jnbp.com. Oni nodir yn wahanol, bydd cyfeiriadau ar y wefan hon at JERA Nex bp ac EnBW yn golygu JERA Nex bp Limited ac EnBW Energie Baden-Württemberg AG, yn ogystal â’u his-gwmnïau a’u cwmnïau cyswllt, os oes ganddyn nhw rai.

Ein hatebolrwydd i chi

Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gynhwysfawr.

Er gwaethaf ein hymdrechion, mae’n bosibl na fydd yr wybodaeth yn gywir, yn gyfredol nac yn berthnasol i amgylchiadau unrhyw achos penodol.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anghywirdebau neu hepgoriadau (ac eithrio camliwio twyllodrus) ar y wefan hon, a chi yn unig sy’n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau rydych chi’n eu gwneud ar sail yr wybodaeth sydd ar y wefan hon.

Nid ydym ni nac unrhyw un o’n his-gwmnïau ni nac unrhyw un o’u his-gwmnïau nhw yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, canlyniadol, neu o unrhyw fath arall sy’n deillio o fynediad at y wefan hon, defnydd o’r wefan hon, neu unrhyw wybodaeth sydd arni.

Wrth gwrs, rydym yn fwy na pharod i drafod goblygiadau unrhyw faterion a godir os byddwch yn cysylltu â ni yn [insert applicable email address] neu enbw-jnbp.com/contact-us.

Ac eithrio mewn perthynas â gwybodaeth bersonol a fydd yn cael ei thrin yn unol â’r datganiad preifatrwydd sy’n ymddangos ar y wefan hon, os byddwch chi’n rhoi gwybodaeth i ni, rydych chi’n cytuno bod gennym ni hawliau diderfyn i wybodaeth o’r fath, ac y gallwn ni ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd.

Ystyrir nad yw gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol.

Perchnogaeth dros hawlfraint y wefan hon

Chi sy’n gyfrifol am ufuddhau i’r holl gyfreithiau hawlfraint perthnasol.

Mae gennych hawl i wneud copïau o’r wefan hon fel gweithred ofynnol neu ddamweiniol wrth edrych arni; a chewch argraffu cymaint o’r wefan ag y bo’n rhesymol at ddibenion personol a phreifat.

Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall yn llwyr.

Ni chewch fframio’r wefan hon na chysylltu â thudalen ar wahân i’r dudalen hafan heb ein caniatâd penodol ni.

Defnyddio Hyperddolenni

Nid ydym ni nac unrhyw un o’n his-gwmnïau yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau eraill, gan gynnwys unrhyw wefannau rydych chi wedi cael mynediad atynt drwy ein gwefan, neu y gallech chi gael mynediad atynt drwy ein gwefan.

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw wefannau neu ddolenni o’r fath.

Pan fyddwn yn darparu hyperddolen i wefan trydydd parti, rydym yn gwneud hynny gan ein bod ni’n credu’n ddidwyll bod gwefan o’r fath yn cynnwys, neu’n gallu cynnwys, deunydd sy’n berthnasol i’r hyn sydd ar ein gwefan.

Nid yw hyperddolen o’r fath yn golygu bod enw’r cwmni neu ei is-gwmnïau wedi adolygu neu gymeradwyo gwefan y trydydd parti cysylltiedig, na’i chynnwys – yn wir, mewn rhai achosion, gall hyperddolen eich cysylltu â gwefan trydydd parti sy’n cynnwys safbwyntiau sy’n groes i’r rhai a fynegir ar ein gwefan neu a ddelir fel arall gan enw’r cwmni a’i is-gwmnïau.

Pa ddeddf sy’n rheoli’r wefan hon?

Bydd eich defnydd chi o’r wefan hon, yr hyn y byddwch chi’n lawrlwytho oddi arni, a gweithrediad y telerau ac amodau hyn, yn cael eu llywodraethu yn unol â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig ar gyfer y wefan.

ydd gan y Deyrnas Unedig awdurdodaeth lwyr dros unrhyw anghydfod sy’n deillio o’ch defnydd o’r wefan hon.

Os bydd unrhyw awdurdod cymwys yn penderfynu bod unrhyw un neu unrhyw ran o’r telerau sydd wedi’u cynnwys yn y telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy i unrhyw raddau, bydd y telerau i’r graddau hynny’n cael eu torri o’r telerau sy’n weddill a fydd yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodadwy i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.