Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yw fferm wynt arfaethedig ar y môr sydd wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yn nyfroedd Cymru yn nwyrain Môr Iwerddon. Ar ei bwyntiau agosaf at y lan, mae ardal yr aráe yn 28.8 km o arfordir gogledd Cymru, 46.9 km o arfordir gogledd-orllewin Lloegr, a 46.6 km o Ynys Manaw.
Turbines
capasiti cynhyrchu posibl
Mae ganddi lanfa ger Llanddulas, Conwy ar arfordir Gogledd Cymru a chysylltiad arfaethedig ag is-orsaf bresennol y National Grid ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Mae Mona yn cynnwys elfennau ar y môr i gynhyrchu trydan ac elfennau ar y môr ac ar y tir i allu trawsyrru’r trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu i’r grid cenedlaethol.
Mae ganddi lanfa ger Llanddulas, Conwy ar arfordir Gogledd Cymru a chysylltiad arfaethedig ag is-orsaf bresennol y National Grid ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Mae Mona yn cynnwys elfennau ar y môr i gynhyrchu trydan ac elfennau ar y môr ac ar y tir i allu trawsyrru’r trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu i’r grid cenedlaethol.
Mae gan Mona lanfa geblau ger Llanddulas, Conwy ar arfordir Gogledd Cymru a chysylltiad arfaethedig ag is-orsaf Grid Cenedlaethol Bodelwyddan yn Sir Ddinbych.
Mae Mona yn cynnwys elfennau ar y môr i gynhyrchu trydan ac elfennau ar y môr ac ar y tir i allu trawsyrru’r trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu i’r grid cenedlaethol:
- Generaduron tyrbinau gwynt (hyd at 96 tyrbin, sy’n cynhyrchu tua 1.5GW o drydan)
- Hyd at bedwar platfform is-orsaf ar y môr
- Ceblau rhyng-gysylltu ar y môr, ceblau rhyng-aráe a cheblau allforio
- Pedwar porth cysylltu trosiannol (yn cysylltu’r ceblau ar y môr a’r ceblau ar y tir)
- Ceblau ar y tir
- Is-orsaf ar y tir
- Cysylltu ag Is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan
Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn cael ei ystyried yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod cais am orchymyn cydsyniad datblygu (DCO) wedi cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Ar 4 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, fod caniatâd wedi’i roi ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Mona. Ar 24 Medi 2025, cafodd Fferm Wynt Alltraeth Mona Drwydded Forol hefyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â’n cais am gydsyniad datblygu, archwiliad yr Arolygiaeth Gynllunio a phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.
-
Chwefror 2021
Sicrhau safle fel rhan o rownd brydlesu Rownd 4 Ystad y Goron
-
Mehefin/Gorffennaf/Awst 2022
Ymgynghoriad anstatudol Prosiect Gwynt Alltraeth Mona
-
Ionawr 2023
Cytundeb ar gyfer les a ddyfernir gan Ystad y Goron
-
Ebrill/Mai/Mehefin 2023
Ymgynghoriad statudol Prosiect Gwynt Alltraeth Mona
-
Chwefror 2024
Cyflwyno cais Prosiect Gwynt Alltraeth Mona i’r Arolygiaeth Gynllunio am orchymyn cydsyniad datblygu (DCO)
-
Mawrth 2024
Cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu Prosiect Gwynt Alltraeth Mona wedi’i dderbyn i’w archwilio
-
Ionawr 2025
Cau’r broses o archwilio cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu Prosiect Gwynt Alltraeth Mona
-
Gorffennaf 2025
Yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi caniatâd ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Mona
-
Medi 2025
Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyfarnu Trwydded Forol
Cyflenwyr
Rydym am fanteisio i’r eithaf ar gynnwys lleol yn y dull caffael, gan fod o fudd i’r gwledydd a’r rhanbarthau sydd agosaf at ein ffermydd gwynt. Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb mewn gwaith yn y dyfodol, ewch i’r dudalen yma.
Tîm Cysylltiadau â'r Gymuned
- [email protected]
-
Freepost Mona
- 0800 860 6263