bp ac EnBW yn cyhoeddi prosiectau ffermydd gwynt ar y môr Morgan a Mona ym Môr Iwerddon, lansiad y porth cofrestru i gyflenwyr
Cadarnhaodd bp ac Energie Baden-Württemberg AG (EnBW) enwau eu prosiectau gwynt ar y môr newydd arfaethedig ym Môr Iwerddon heddiw – Morgan a Mona – ac wedi lansio porth cyflenwyr penodedig ar gyfer datblygiadau.
Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
Wedi ei gwblhau, bydd gan Morgan a Mona gapasiti cynhyrchu posibl cyfunol o 3GW, digon i bweru’r hyn sy’n cyfateb i tua 3.4 miliwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig â thrydan glân.
Esboniodd Burkhard Roemhild, cyfarwyddwr prosiect EnBW, yr enwau: “Cawsom ein hysbrydoli gan leoliad y ddau ddatblygiad gwynt ar y môr yma a’u cysylltiad i’r rhanbarth. Ystyr Morgan mewn Hen Gymraeg yw “pennaeth y môr”, ac mae Mona yn cyfeirio at Ynys Môn.”
Cynnwys lleol a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol
Ychwanegodd Richard Haydock, cyfarwyddwr prosiect bp: “Bydd y prydlesi hyn yn chwarae rhan allweddol yn helpu cyflawni nod llywodraeth y Deyrnas Unedig o gynhyrchu digon o bŵer gwynt ar y môr i bweru pob cartref yn y Deyrnas Unedig, gan gynyddu capasiti cynhyrchu’r wlad bedair gwaith i 40GW erbyn 2030.
“Credwn ei bod yn hynod bwysig bod y gadwyn gyflenwi leol yn cyfrannu at hynny, felly heddiw rydym wedi lansio porth penodedig i gyflenwyr ble gall cwmnïau lleol baru eu sgiliau ag anghenion y prosiectau. Mae’r porth yn darparu mynediad i gwmnïau o bob maint i gofrestru eu diddordeb ar gyfer gwaith yn y dyfodol.”
Mae’r prosiect yn annog cyflenwyr sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig i gofrestru eu diddordeb yn enbw-bp.com/suppliers, yn arbennig felly’r rhai sydd â chysylltiadau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Ynghylch Morgan a Mona
Yn Chwefror, cafodd EnBW a bp eu dethol ar y cyd fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer y ddwy brydles yn Rownd 4 Gwynt ar y Môr y Deyrnas Unedig, y rownd brydlesu gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig ers 2010.
Roedd hyn yn nodi mynediad bp i sector pŵer gwynt ar y môr y Deyrnas Unedig, sydd ar hyn o bryd y mwyaf yn y byd, ac yn gynnydd pellach tuag at adeiladu busnes ynni gwynt o safon byd i bp. Ar hyn o bryd mae gan EnBW asedau ar y môr yn yr Almaen, Ffrainc a Sweden ac mae’n gweithredu pedwar ased gwynt ar y môr ym Môr Baltig yr Almaen a Môr y Gogledd.
Cyfeiriwyd at Morgan a Mona yn flaenorol fel ardaloedd prydles 1 a 2, neu Ogledd Melyn a De Melyn. Maent oddeutu 300km² a 500km² o ran maint yn y drefn honno, ac wedi eu lleoli tua 30km o’r arfordir, gyda dyfnderoedd dŵr o tua 35m ar gyfartaledd.
Cychwynnodd y bartneriaeth arolygon bywyd gwyllt yn 2021 ac ar hyn o bryd mae’n cyflawni gwaith arolwg i nodweddu amodau’r ardaloedd prydles, gan gynnwys amodau daearegol, cynefinoedd benthig a phresenoldeb rhwystrau ac adnoddau sensitif a fydd yn cael eu hystyried yn ystod datblygiad y prosiectau.
Ymgysylltu’n agored a chydweithredol â physgodfeydd a rhanddeiliaid morol
I helpu datblygiad Morgan a Mona i fodoli ar y cyd gyda diwydiannau morol traddodiadol, mae’r bartneriaeth yn ymgysylltu’n weithredol â physgotwyr masnachol a’u cynrychiolwyr, gan gasglu mewnwelediad ac adborth. Mae yna nifer o lwybrau trafnidiaeth fferi allweddol ar gyfer teithwyr a chargo ar draws Môr Iwerddon, yn cysylltu tir mawr Prydain ag Ynys Manaw ac Iwerddon. Mae’r bartneriaeth yn sefydlu fforwm mordwyo i wneud gwaith rhagweithiol i leihau’r effaith ar longau, ac mae bp ac EnBW yn ymroddedig i ymgysylltu â chymunedau a diwydiannau rhanbarthol eraill sydd â diddordeb yn y prosiect.
I gael gwybod mwy, ewch i enbw-bp.com/maritime
Nodiadau i olygyddion
Ynghylch bp
Diben bp yw ail-ddychmygu ynni ar gyfer pobl a’n planed. Mae wedi sefydlu uchelgais i fod yn gwmni sero net erbyn 2050, neu’n gynt, ac i helpu’r byd i fod yn sero net, ac yn ddiweddar fe gyhoeddodd ei strategaeth ar gyfer cyflawni’r uchelgais honno.
Ynghylch EnBW
Energie Baden-Württemberg AG (EnBW) yw un o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf yn yr Almaen ac mae’n cyflenwi trydan, nwy, dŵr a datrysiadau ynni a gwasanaethau diwydiant ynni i tua 5.5 miliwn o gwsmeriaid gyda gweithlu o fwy na 23,000 o weithwyr. Ein nod yw cryfhau ein safle fel partner seilwaith cynaliadwy ac arloesol ar gyfer cwsmeriaid, dinasyddion ac awdurdodau lleol i raddau mwy fyth. Mae ailsefydlu’r cwmni gyda ffocws ar ynni adnewyddadwy a datrysiadau seilwaith deallus yn elfen allweddol o’n strategaeth. Bydd hanner portffolio cynhyrchu EnBW yn ynni adnewyddadwy erbyn 2025.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltiadau
Swyddfa’r wasg bp, Llundain: [email protected]