Newyddion
Dydd Llun 26 Medi 2022

Y gymuned yn cael ei gwahodd i roi sylwadau ar leoliadau posibl i is-orsaf ar gyfer prosiect Fferm Wynt ar y Môr Mona

Mae lleoliadau posibl ar gyfer is-orsaf wedi cael eu datgelu ar gyfer prosiect Fferm Wynt ar y Môr Mona ac mae cymunedau ger y lleoliadau – ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych – yn cael eu gwahodd i ddweud

Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.

Mae’r fferm wynt ar y môr yn cael ei datblygu gan EnBW Energie Baden-Württemberg AG a bp. Mae’n ffurfio hanner pâr o ffermydd gwynt – Morgan yw enw’r llall – a disgwylir y byddant, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu digon o drydan glân i bweru tua 3.4 miliwn o gartrefi yn y DU.

Bydd y ffermydd gwynt yn cael eu lleoli tua 20km – 30km oddi ar yr arfordir a byddant yn chwarae rhan bwysig yn helpu’r DU i gyrraedd ei tharged o 50GW o ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.

Ers cynnal ymgynghoriad rhagarweiniol ar y prosiect yn gynharach eleni, mae EnBW Energie Baden-Württemberg AG a bp wedi cwblhau rhagor o asesiadau manwl, ymweliadau safle ac arolygon er mwyn creu rhestr fer o saith lleoliad a allai i gyd fod yn addas ar gyfer adeiladu’r is-orsaf newydd.

Mae pob un o’r saith lleoliad yng nghyffiniau is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol ym Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, ac erbyn hyn mae’r prosiect yn lansio ail ymgynghoriad wedi’i dargedu, sydd wedi’i ddylunio’n benodol i ofyn am adborth ar y lleoliadau posibl hyn.

Bydd yr adborth, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth leol a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael eu cyfuno ag asesiadau amgylcheddol ac astudiaethau technegol sy’n mynd ymlaen i helpu tîm y prosiect i gyfyngu ei ffocws. Yna, bydd un neu ragor o’r lleoliadau sy’n cael eu ffafrio yn destun ymgynghoriad pellach yn ystod y misoedd nesaf.

Dywed Richard Haydock, Cyfarwyddwr Prosiect bp: 

“Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i roi adborth fel rhan o’n hymgynghoriad cychwynnol. Mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at allu datblygu’r prosiect ymhellach a nodi’r saith lleoliad posibl hyn ar gyfer yr is-orsaf y bydd angen i ni ei hadeiladu fel rhan o brosiect Fferm Wynt ar y Môr Mona. 

Dywed Celine Combé, Cyfarwyddwr Prosiect EnBW: 

“Ar ôl i’n his-orsaf newydd gael ei hadeiladu, bydd yn cysylltu ag is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan, er mwyn gallu bwydo’r pŵer adnewyddadwy y byddwn yn ei gynhyrchu i’r rhwydwaith trawsyrru trydan. 

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gymuned ar bob cam o’r prosiect, a hoffwn annog pobl leol i ddysgu mwy am y lleoliadau arfaethedig hyn ar gyfer yr is-orsaf ac i roi eu barn i ni.”

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Llun 26 Medi a dydd Llun 7 Tachwedd gyda dwy arddangosfa gyhoeddus yn cael eu cynnal yn Neuadd Bentref Modelwyddan ddydd Gwener 14 Hydref (rhwng 3pm a 7pm) a dydd Sadwrn 15 Hydref (rhwng 10am ac 1pm). Bydd gweminar hefyd yn cael ei chynnal nos Fercher 12 Hydref (rhwng 6.30pm ac 8pm).

Rydym yn annog unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu gofrestru ar gyfer y weminar i fynd i gwefan y prosiect – www.morganandmona.com. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0800 860 6263 yn rhad ac am ddim neu drwy anfon neges e-bost at y prosiect yn [email protected].

Nodiadau i olygyddion

Gwybodaeth am bp

Pwrpas bp yw ailddychmygu ynni ar gyfer pobl a’n planed. Mae wedi nodi uchelgais i fod yn gwmni sero net erbyn 2050, neu’n gynt, ac i helpu’r byd i gyrraedd sero net. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer cyflawni’r uchelgais honno.

Gwybodaeth am EnBW

Mae EnBWEnergie Baden-Württemberg AG yn un o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf yn yr Almaen ac mae’n cyflenwi trydan, nwy, dŵr a datrysiadau ynni a gwasanaethau’r diwydiant ynni i oddeutu 5.5 miliwn o gwsmeriaid gyda gweithlu o fwy na 26,000 o weithwyr. Ein nod yw cryfhau ein sefyllfa fel partner seilwaith cynaliadwy ac arloesol ar gyfer cwsmeriaid, dinasyddion ac awdurdodau lleol i raddau mwy byth. Mae ail-leoli’r cwmni i ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a datrysiadau seilwaith clyfar yn elfen allweddol o’n strategaeth. Bydd hanner portffolio cynhyrchu EnBW yn cynnwys ynni adnewyddadwy erbyn 2025.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltiadau

Swyddfa’r wasg bp, Llundain: [email protected]

Cyswllt â’r wasg yn EnBW, Miriam Teige: [email protected]

Share