Newyddion
Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025

Fferm Wynt Alltraeth Mona wedi derbyn cydsyniad datblygu

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, bod cydsyniad wedi'i roi ar gyfer Fferm Wynt Alltraet

Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
Delwedd at ddibenion darlunio yn unig.
  • Wedi’i leoli ym Môr Iwerddon, Mona yw’r prosiect cyntaf o rownd brydlesu Rownd 4 y DU i sicrhau cydsyniad, gan fynd o ddyfarniad prydles i dderbyn cymeradwyaeth yn gyflymach nag unrhyw fferm wynt alltraeth arall yn y DU.
  • Caiff y prosiect ei ddatblygu gan bartneriaid menter ar y cyd bp ac EnBW, a disgwylir i’r fferm wynt fod yn weithredol erbyn diwedd y degawd.

Meddai Sarah Pirie, Cyfarfwyddwr y Rhaglen, EnBW; “Rydym wrth ein bodd bod Fferm Wynt Alltraeth Mona wedi sicrhau cydsyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net. Mae’r gymeradwyaeth hon yn dilyn proses drylwyr a chynhwysfawr, gan gadarnhau parodrwydd y prosiect i ddarparu ynni carbon is ar raddfa fawr sy’n cryfhau diogelwch ynni’r DU ac sy’n hanfodol i gyflawni dyfodol sero net, gan anelu at leihau’r effaith amgylcheddol. Byddwn nawr yn parhau ag ymgysylltiad â’r gadwyn gyflenwi ar draws sawl cwmpas yn y meysydd peirianneg ac adeiladu.”

Meddai Mark Hudson, Cyfarwyddwr y Rhaglen, bp“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hyd yma; mae eu hadborth a’u deialog gwerthfawr wedi bod yn allweddol wrth fireinio ein cynigion. Wrth i ni fwrw ymlaen i adolygu’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu , byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â rhanddeiliaid a chymunedau lleol i’n galluogi i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus ac i helpu i uchafu’r manteision economaidd i Ogledd Cymru ac economi ehangach y DU.”

Cyn y gall y prosiect barhau i’r cyfnod adeiladu, mae angen i Fferm Wynt Alltraeth Mona gael Trwydded Forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a bydd yn parhau i weithio gyda CNC i gefnogi derbyn y drwydded yn amserol.

Mae manylion llawn y penderfyniad i’w gweld ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio: https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/cy/projects/fferm-wynt-alltraeth-mona/

Hefyd ym Môr Iwerddon, mae bp a EnBW yn symud ymlaen â Phrosiect Gwynt Alltraeth Morgan. Ym Môr y Gogledd, maent yn symud ymlaen â Phrosiect Gwynt Alltraeth Morven.

Gwybodaeth bellach

Swyddfa’r wasg bp

[email protected]

Swyddfa’r wasg ganolog EnBW

+49 721 63255550 [email protected]

Share