Datganiad preifatrwydd

 

Gwybodaeth am y Rheolydd

Rydym yn croesawu eich diddordeb yn y wefan hon (enbw-bp.com). Y partïon sy’n gyfrifol ar y cyd yw:

bp: BP Alternative Energy Investments Ltd., sydd â swyddfa gofrestredig yn Chertsey Road, Sunbury-on-Thames, Middlesex TW16 7BP (rhif cofrestru 05998019); a EnBW: Energie Baden-Württemberg AG, sydd â swyddfa gofrestredig lwyr yn Durlacher Allee 93, D-76131 Karlsruhe, Yr Almaen. Mae eich preifatrwydd yn fater difrifol iawn i ni ac rydym eisiau i chi ddeall ein harferion parthed sut y delir â’ch data personol. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut byddwn yn gwneud hyn.

Casglu a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol

Mae’r wefan hon yn darparu’r posibiliad i chi adael ymholiad cyffredinol, neu i adael manylion eich cwmni am gyfle i sicrhau contract. Mae darparu eich data personol trwy’r naill ffurflen neu’r llall yn gwbl wirfoddol. I’r fath raddau ag y byddwch yn gwneud, rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad gweithredol i brosesu’r data personol rydych yn ei ddarparu i ni, yn unol â’r Datganiad Preifatrwydd hwn.

Os byddwch yn cyflwyno ymholiad cyffredinol, dim ond i ddibenion ymateb i’ch ymholiad y defnyddir eich data personol. Efallai y byddwn hefyd yn anfon cyfathrebiadau marchnata atoch (yn cynnwys trwy e-bost) a chylchlythyrau yn unol â’ch dewisiadau a fynegwyd yn flaenorol. Os nad ydych chi’n dymuno derbyn cyfathrebiadau o’r fath gennym mwyach, cysylltwch â ni yn y swyddogaeth ‘Cysylltu â ni’ ym mhennyn a throedyn y wefan i addasu eich dewisiadau, neu dilynwch y cyfarwyddiadau optio allan a geir ym mhob cyfathrebiad dilynol.

Os byddwch yn cyflwyno ffurflen ‘Gweithio gyda Ni’ ar gyfer y cyfle i ennill contract, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gychwyn sgwrs gyda chi parthed cyfleoedd posibl.

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth o dechnolegau olrhain, y gallwch eu hanalluogi trwy ein tudalen dewisiadau cwcis.

Derbynwyr Gwybodaeth Bersonol

Bydd mynediad at eich data personol yn gyfyngedig i weithwyr bp ac EnBW perthnasol sy’n gyfrifol am ymgysylltu â’r cyhoedd a chaffael. Rydym yn cadw’r hawl i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol fel sy’n ofynnol dan y gyfraith, neu pan fydd datgelu yn angenrheidiol i ddiogelu ein hawliau ac/neu i gydymffurfio ag achos barnwrol, gorchymyn llys, cais gan reoleiddiwr neu unrhyw broses gyfreithiol arall a gyflwynir ar y JV.

Cyfnod Dargadw

Dim ond am ba bynnag hyd fydd angen i gyflawni’r dibenion dros gasglu byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth, cyn ei gwneud yn anhysbys neu ei dileu.

Os byddwch yn anfon unrhyw negeseuon ‘cysylltu â ni’ atom, byddwn yn dileu neu wneud y negeseuon hyn yn anhysbys unwaith y byddwn wedi bodloni eich ymholiad.

 

Newidiadau i’r Datganiad Preifatrwydd Hwn

Gallwn ddiweddaru’r datganiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd ac fe argymhellwn eich bod yn ailymweld â’r datganiad o bryd i’w gilydd i weld y fersiwn ddiweddaraf. Diweddarwyd y datganiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 28 Mehefin 2021.

Hawl Mynediad, Unioniad a Dilead

Yn unol â’n polisïau mewnol, gallwch ofyn i ni ddarparu mynediad i chi at unrhyw ddata personol a broseswn amdanoch. Os byddwch chi eisiau cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn defnyddio’r swyddogaeth ‘Cysylltu â ni’ ym mhennyn a throedyn y wefan. Mae gennych chi hawl i ofyn am gael cywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sy’n berthnasol i chi.