Y ffermydd gwynt
Mae EnBW a JERA Nex bp yn datblygu ffermydd gwynt ar y môr ym Môr Iwerddon a Môr y Gogledd, gyda chapasiti cynhyrchu cyfun posibl o tua 6 GW. Amcangyfrifir bod hyn yn ddigon i bweru’r hyn sy’n cyfateb i tua 6 miliwn o gartrefi yn y DU â thrydan glân.
Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Morgan yn fferm wynt ar y môr sy’n cael ei datblygu gan EnBW a JERA Nex bp ym Môr Iwerddon.
Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn fferm wynt ar y môr sy’n cael ei datblygu gan EnBW a JERA Nex bp ym Môr Iwerddon, oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Morven yn fferm wynt ar y môr sy’n cael ei datblygu gan EnBW a JERA Nex bp ym Môr y Gogledd, oddi ar arfordir Swydd Aberdeen.
Pam mae angen ynni gwynt ar y môr arnom
Mae newid yn yr hinsawdd yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae’n effeithio ar bob gwlad a rhaid i bob un ohonom chwarae rhan yn y frwydr.
Gall prosiectau gwynt ar y môr Morgan, Mona a Morven chwarae rhan bwysig yn y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy drwy ddarparu swm sylweddol o ynni gwynt ar y môr i gefnogi targedau Llywodraeth y DU.
Mae’r DU yn arwain y byd ym maes gwynt ar y môr ac mae’r moroedd o’n hamgylch yn ddelfrydol ar gyfer manteisio ar bŵer gwynt. Gall ein prosiectau sicrhau’r canlynol:
Delwedd at ddibenion darlunio yn unig
Sut mae’r trydan yn mynd o’r fferm wynt i gartrefi a busnesau?
Byddai’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan Morgan, Mona a Morven yn cael ei drosglwyddo i’r rhwydwaith trawsyrru trydan (“y grid”) gan ddefnyddio ceblau ar y môr.
Pan fyddan nhw ar y môr, mae’r ceblau hyn fel arfer yn cael eu gosod ar wely’r môr ac ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lan maen nhw fel arfer yn cael eu claddu o dan y ddaear.
Graffig at ddibenion darlunio yn unig
Man in blue overalls explaining to a group wearing similar attire
Ar y cam cynnar iawn hwn, mae’n rhy gynnar gwybod maint a nifer y tyrbinau sydd eu hangen.
Byddwn yn datblygu hyn drwy’r broses ddylunio, gan gynnwys ystyried:
- Seilwaith ar y môr (gan gynnwys nifer a math y tyrbinau, is-orsaf(oedd) ar y môr a cheblau)
- Lleoliad y ceblau ar y tir
- Seilwaith ar y tir (gan gynnwys lleoliad is-orsaf)
Bydd yr uchod i gyd yn cael eu pennu gan ystyried nifer o ffactorau a chyfyngiadau, ac mewn ymgynghoriad â rheoleiddwyr.
Bydd EnBW a JERA Nex bp hefyd yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol, cymunedau lleol ac eraill i lywio dyluniad y prosiect.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y broses gydsynio, gallwch fynd i wefan yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Morgan a Mona, a gwefan Marine Scotland ar gyfer Morven.